Croeso i Ysgol Bro Alun!

Croeso i wefan Ysgol Bro Alun – ysgol sydd wedi ei ffedereiddio efo Ysgol Plas Coch.

Welcome to Ysgol Bro Alun’s website – a school that’s federated with Ysgol Plas Coch.

Ein gweledigaeth ym Mro Alun yw darparu ysgol sy’n datblygu hunan hyder a hunan ddisgyblaeth y disgyblion mewn awyrgylch ofalgar, cynhaliol, hapus a diogel. Rydym yn ymrwymedig i fynnu’r safonau uchaf posib gyda pob plentyn yn cyrraedd ei lawn botensial. Yn greiddiol i hyn mae’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig.

Ym Mro Alun rydym yn ymrwymedig i ddarparu addysg gyflawn o safon uchel er mwyn creu pobl ifanc cyflawn, gwydn a medrus fydd yn barod i wynebu’r byd a’i heriau yn hyderus a phositif.  Byddant y disgyblion yn cael cyfleoedd i gyfranogi’n llawn yn eu dysgu er mwyn medru cyfrannu i fywyd yn y gymdeithas leol a’r byd ehangach.

Mae’r safle gwe a’r ap yn ein cynorthwyo i wireddu’n dymuniad o weithio mewn partneriaeth â rhieni a gofalwyr i’w hysbysu ac i rannu gwybodaeth am faterion ysgol. Gyda hyn mewn golwg, rydym yn gobeithio bydd ein gwefan a’n ap ysgol yn ei gwneud yn haws i chi gael y newyddion diweddaraf a gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn yr ysgol.

 

Our vision at Bro Alun is to provide a school that develops the pupils’ self confidence and self discipline in a caring, supportive, happy and safe environment.  We are committed to insisting the highest standards possible with each pupil achieving their full potential. Underpinning all of this is the Welsh language and Welsh culture. 

At Bro Alun, we are committed to providing a complete education of a high standard to create rounded, skilful and resilient young people that will be ready to face the world and its challenges confidently and positively. They will have the opportunity to participate in their own learning to enable them to contribute to life in the local community and further afield.

The website and app assists us to work in partnership with parents and carers to keep them informed and to share information about school life. With this in mind, we hope our website and school app will make it easier for you to get up-to-date news and information about what’s happening at the school.

Lawrlwythwch ein app / Download our app

Hysbysiad Preifatrwydd / Privacy Notice


 

 

Newyddion / News