5 pwynt dojo / 5 dojo points

Un o’n targedau eleni  yw i ddatblygu a chynyddu’r defnydd o Gymraeg  ar  fuarth yr ysgol. Yn dilyn cyfarfod gyda’r Llysgenhadon Iaith yr wythnos diwethaf, cynigwyd syniad arbennig gan ddau ddisgybl er mwyn i ni dargedu’r defnydd o Gymraeg ar fuarth yr ysgol.  Awgrymodd y Llysgenhadon Iaith i gynyddu’r pwyntiau dojo o 2 bwynt i 5 pwynt yn ystod y flwyddyn hon er mwyn i ni dargedu’r buarth yn benodol. Wel am syniad campus!

Dyma nhw’r Llysgenhadon Iaith yn cyflwyno’u syniad i weddill y disgyblion drwy fideo. Pob lwc a gobeithio gwelwn ni’r effaith y cynllun newydd yma ar y defnydd o Gymraeg ar fuarth ein hysgol.

 

One of our targets this year is to develop and increase the use of spoken Welsh on our school yard. Following a meeting with the Language Ambassadors last week, two pupils suggested a brand new idea that would improve the use of Welsh on our playground. The Welsh Ambassadors’ suggested increasing the dojo points from 2 points to 5 points. What a fantastic idea!

This is a short video clip created by the Welsh Language Ambassadors presenting their idea to the rest of the pupils. Good luck and hopefully we will see positive impact on the spoken Welsh on our school yard.