Bydd Clwb yr Urdd yn gorffen nos Fercher nesaf sef y 20fed o Fawrth a bydd Eisteddfod Cylch Wrecsam yn cael ei chynnal yma yn Ysgol Bro Alun dydd Sadwrn y 23ain o Fawrth. Byddwn yn anfon mwy o wybodaeth ymlaen atoch ar ddechrau’r wythnos ynglŷn â’r rhagbrofion a threfniadau’r Eisteddfod.
Byddwn hefyd yr wythnos nesaf yn neilltuo amser i’r disgyblion sy’n cystadlu i berfformio o flaen yr ysgol, rydym yn credu bod hyn yn brofiad da iawn iddynt i ennyn hyder cyn yr Eisteddfod.
Hoffwn ddiolch i’r plant am eu brwdfrydedd dros y tymor a’u gwaith caled yn dysgu geiriau a pharatoi at yr Eisteddfod eto eleni.
The Urdd Club will be finishing next Wednesday, the 20th of March and the Wrexham District Eisteddfod will be held here at Ysgol Bro Alun on Saturday 23rd March. We will be sending more information to you at the beginning of next week regarding the prelims and the Eisteddfod arrangements.
We will also set aside time next week for pupils who are competing to perform in front of the school, we believe this is a very good experience for them to gain confidence before the Eisteddfod.
I would like to thank the children for their enthusiasm this term and for their hard work in learning words and preparing for the Eisteddfod again this year.
Awel Watson-Smyth.