Cyngor Ysgol – School Council

Fore Llun, Chwefror 4ydd aeth aelodau o Gyngor Ysgol Bro Alun i ymweld â Maer Wrecsam, y Cynghorydd Andy Williams yn Neuadd y Dref. Yno buom yn dysgu am waith prysur y Maer. Mae’r Maer yn mynd i lawer o bwyllgorau ac yn cymryd rhan mewn sawl digwyddiad pwysig yn yr ardal. Cawsom eistedd yn Siambr y Cyngor ac ym Mharlwr y Maer. Roedd gweld cadwynni a chlogyn arbennig y Maer yn ddiddorol iawn.

On Monday morning, February 4th members of Cyngor Ysgol Bro Alun (School Council) visited the Mayor of Wrexham, Cllr. Andy Williams at The Guildhall. We learnt about the Mayors busy work. The Mayor attends many committees and takes part in numerous events in the area. We sat in the Council Chamber and in the Mayor’s Parlour. Seeing the Mayor’s chains and his special robe was very interesting.