Ein Murlun Eco / Our Eco Mural

Cawsom bleser cyd-weithio heddiw gyda’r  arlunydd Sara Mai yn creu murlun eco gan ddefnyddio’r caeadau plastig mae’r pwyllgor eco wedi ei gasglu ers y Nadolig.

Mae’r cynllun yn edrych yn arbennig o effeithiol a bu disgyblion Blwyddyn 1 hyd at 4 yn clymu’r caeadau a dilyn patrymau’n  ofalus.

Mae Sara am fynd a’r gwaith yn ôl i’w stiwdio heno ac am ddychwelyd y gwaith gorffenedig yn ol cyn bo hir!

Diolch yn fawr i Miss Morris am drefnu’r digwyddiad yma ac rydym yn  edrych ymlaen at osod y murlun yn neuadd yr ysgol i bawb ei weld.

Gwaith da Eco Bwyllgor Bro Alun!

 

The pupils enjoyed working with Sara Mai today creating an Eco-mural using the plastic lids that the Eco committee have been collecting since Christmas.

The design looks particularly effective and pupils from Year 1 to Year 4 enjoyed carefully tying the lids together and following the blueprint.

Sara will now take the project back to her studio tonight and following completion will return it to us.

Thank you Miss Morris for organising today and we look forward to have the mural on display in the school hall for everyone to enjoy.

Good work Eco Committee!