Yn dilyn digwyddiad bore heddiw ar y groesffordd y tu allan i’r ysgol, atodaf y darnau addas i yrwyr o Reolau’r Ffordd ar y defnydd cywir o groesfannau i gerddwyr. Er diogelwch pawb plîs dilynwch y rheolau yma.
Rheol 191
Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â pharcio ar groesfan neu mewn ardal gyda llinellau igam-ogam. Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â goddiweddyd y cerbyd sy’n symud agosaf i’r groesfan neu’r cerbyd sydd agosaf at y groesfan sydd wedi stopio i ildio i gerddwyr.
Deddfau RTRA sect 25(5) a TSRGD schedule 14 parts 1 a 5
Rheol 192
Mewn traffig sy’n symud yn araf ac yn ciwio dylech gadw croesfannau’n hollol glir, gan fod rhwystro’r rhain yn ei gwneud hi’n anodd ac yn beryglus i gerddwyr groesi. Ni ddylech fynd i mewn i groesfan cerddwyr os nad ydych chi’n gallu clirio’r groesfan yn llwyr. Ni ddylech chwaith rwystro uwch linellau stopio i feiciau.
Rheol 192: Cadwch y groesfan yn glir
Rheol 193
Dylech gymryd gofal ychwanegol os bydd yr olygfa o bob ochr i’r groesfan yn cael ei rhwystro gan giw o draffig neu gerbydau sydd wedi’u parcio’n anghywir. Gall cerddwyr fod yn croesi rhwng cerbydau llonydd.
Rheol 194
Rhowch ddigon o amser i gerddwyr groesi a pheidiwch ag aflonyddu arnynt drwy refio’r injan neu ymwthio ymlaen.
Rheol 195
Croesfannau sebra. Wrth i chi nesáu at groesfan sebra
- gwyliwch am gerddwyr sy’n aros i groesi a byddwch yn barod i arafu neu stopio i adael iddynt groesi
- dylech ildio i gerddwyr sy’n aros i groesi
- mae’n RHAID i chi ildio pan fydd cerddwr wedi symud i groesfan
- gadewch fwy o amser ar gyfer stopio ar ffyrdd gwlyb neu rhewllyd
- peidiwch â chodi llaw ar gerddwyr na ddefnyddio eich corn i wahodd cerddwyr ar draws y groesfan; gallai hyn fod yn beryglus os bydd cerbyd arall yn agosáu
- byddwch yn amyneddgar, peidiwch a chanu’ch corn na sbarduno’ch injan gan y gall hyn fod yn fygythiol
- byddwch yn ymwybodol o gerddwyr yn agosáu o ochr y groesfan.
Following an incident this morning on the zebra crossing outside school, I have attached the relevant parts for drivers on the correct use of pedestrian crossings by drivers from the Highway Code. For everyone’s safety please follow these rules.
Rule 191
You MUST NOT park on a crossing or in the area covered by the zig-zag lines. You MUST NOT overtake the moving vehicle nearest the crossing or the vehicle nearest the crossing which has stopped to give way to pedestrians.
Laws RTRA sect 25(5) & TSRGD schedule 14 parts 1 and 5
Rule 192
In slow-moving and queuing traffic you should keep crossings completely clear, as blocking these makes it difficult and dangerous for pedestrians to cross. You should not enter a pedestrian crossing if you are unable to completely clear the crossing. Nor should you block advanced stop lines for cycles.
Rule 192: Keep the crossing clear
Rule 193
You should take extra care where the view of either side of the crossing is blocked by queuing traffic or incorrectly parked vehicles. Pedestrians may be crossing between stationary vehicles.
Rule 194
Allow pedestrians plenty of time to cross and do not harass them by revving your engine or edging forward.
Rule 195
Zebra and parallel crossings. As you approach a zebra crossing
- look out for pedestrians waiting to cross and be ready to slow down or stop to let them cross
- you should give way to pedestrians waiting to cross
- you MUST give way when a pedestrian has moved onto a crossing
- allow more time for stopping on wet or icy roads
- do not wave, flash your lights or use your horn to invite pedestrians across; this could be dangerous if another vehicle is approaching
- be patient, do not sound your horn or rev your engine as this can be intimidating
- be aware of pedestrians approaching from the side of the crossing.