Cawsom ddiwrnod gwerth chweil heddiw yn ymgyfarwyddo gyda’r diben cyntaf yr wythnos hon sef disgyblion uchelgeisiol a galluog.
Roedd sgiliau pwysig a chyfleoedd di-ri i bawb ddatrys a chanfod yr atebion i ystod o sefyllfaoedd. Hyfryd oedd gweld ein disgyblion yn dyfalbarhau ac yn herio’u hunain!
Cawsom Amser Adlewyrchu i orffen y dydd a chyfle i ddiffinio a deall y diben pwysig yma o’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Rydym yn edrych ymlaen i ddathlu Dydd Dwr Byd Eang yfory!
It was a rewarding day today getting to grips with the first purpose this week which is ambitious and capable pupils.
There were important skills and countless opportunities for everyone to solve and find the answers to a range of situations. It was wonderful to see our pupils persevering and challenging themselves!
We finished the day with a Reflection Time to defined and understand this important purpose of the new Curriculum for Wales.
We can’t wait to celebrate World Water Day tomorrow!
Cliciwch i wylio’r fideo:-/ Please click to watch our video:-