Mae Blwyddyn 5 wedi bod yng Nglan-llyn dros y tridiau diwethaf ac wedi mwynhau’n fawr iawn! Roedd pawb wedi ymddwyn yn ysblennydd ac wedi derbyn llawer o ganmoliaeth gan staff Glan-llyn a staff yr ysgol am fod yn barchus iawn a dangos esiampl arbennig trwy siarad Cymraeg yn wych. Hoffwn ddiolch hefyd i’r staff am wirfoddoli eu hamser i fynd â’r plant a sicrhau fod cyfleoedd fel hyn yn bosib. Diolch o galon Miss Payne, Mrs Penney a Miss Glennie a da iawn unwaith eto i chi Blwyddyn 5. Rydym yn falch iawn ohonoch!
Year 5 have been to Glan-llyn over the past three days and have thoroughly enjoyed their time! Everyone behaved spectacularly and we have received a lot of praise from Glan-llyn staff and school staff about the pupils being very respectful and setting a positive example by speaking Welsh fantastically. We would also like to thank the staff for volunteering their time to take the pupils on the trip and ensuring opportunities like this are made possible. A huge diolch to Miss Payne, Mrs Penney and Miss Glennie and well done once again to Year 5. We are very proud of you all!



