Gwisg Ysgol / School Uniform

Nodyn i’ch atgoffa am reolau gwisg ysgol ac addysg gorfforol gan ein bod wedi sylwi bod nifer o blant ddim yn gwisgo’r wisg gywir. Gofynnwn yn garedig i chi wirio’r rhestr o ddillad sydd ar y rhestr gwisg ysgol. Cofiwch fod gan y GRhA nifer o eitemau gwisg ysgol ar gael, gofynnwch yn swyddfa’r ysgol.

Oherwydd diogelwch, ni chaniateir gwisgo colur, clustdlysau (ar wahân i stỳds), modrwyau na chadwyni.  Ni ddylid chwaith ddod ag unrhyw beth gwerthfawr i’r ysgol.  Ni ellir dal yr ysgol yn gyfrifol am unrhyw golledion.

 

Gwisg Ysgol

Defnyddir gwisg ysgol swyddogol yn Ysgol Bro Alun:

  • Crys chwys neu gardigan wyrdd (emrallt) gyda logo’r ysgol
  • Crys polo coch
  • Trowsus neu sgert du/llwyd plaen (nid trowsus chwaraeon gyda phatrwm neu linellau gwyn arno) – dim leggins
  • Esgidiau duon nid sandalau

Yn yr haf, caniateir i ferched wisgo ffrogiau ‘gingham’ gwyrdd ac i fechgyn a merched wisgo siorts llwyd/du.

Gellir archebu’r crysau chwys/cardigan a’r crysau polo, gyda logo’r ysgol arnynt o RAM Leisure and Workwear LTD Wrecsam.

Rhaid rhoi enw/labeli ar y dillad os gwelwch yn dda.

Addysg Gorfforol

Bydd disgwyl i bob plentyn wisgo’n addas ar gyfer gwersi ymarfer corff, h.y. crys-t/polo gwyn, siorts du neu glas tywyll a siwmper ysgol. Gellir gwisgo leggins neu dracwisg blaen (du neu glas tywyll)ar ddiwrnodau addysg gorfforol yn unig.

Diolch am eich cydweithrediad.

Just a  reminder of the rules around school and PE uniform as we have noticed that a lot of children are not wearing uniform. We ask kindly that you check the list of uniform. Please remember that the PTA have items of school clothing available and you can ask the school office for this.

School Uniform

An official school uniform is worn at Bro Alun:

  • Green (emerald) sweatshirt or cardigan with the school logo
  • Red polo shirt
  • Plain black/grey trousers or skirt (not sports trousers with any patterns or white lines) – no leggins
  • Black shoes not sandals

Please ensure that the children’s clothes have names / labels on them.

Sweat shirts/cardigans and polo shirts with the school’s logo can be bought from RAM Leisure and Workwear LTD Wrexham.

During the summer, girls are allowed to wear green gingham dresses and boys and girls can wear black/grey shorts.

PE

It is expected that every child dresses appropriately for physical education lessons, that is, white t-shirt / polo shirt, black or navy shorts and a school jumper. Leggins or a plain (Black, navy ) tracksuit bottoms can be worn on PE days only.

 

Due to safety, wearing make-up and jewellery (apart from stud earrings) is not permitted.  Also, your child shouldn’t bring any valuables to school.  The school cannot be held responsible for any losses.

 

Thank you for your cooperation