Hoffwn eich hysbysu bod Awel Watson Smyth, ein dirprwy bennaeth, wedi derbyn swydd newydd yn Ysgol Dafydd Llwyd, Y Drenewydd, ac y bydd yn dechrau yn ei rôl newydd ym mis Medi.
Hoffwn ddiolch yn ddiffuant iddi am ei holl waith caled, ei hymroddiad dros y blynyddoedd, a’i gofal cyson dros les a datblygiad y disgyblion. Mae ei chyfraniad wedi bod yn amhrisiadwy, ac mae’n golled fawr i ni fel ysgol.
Er hynny, rydym yn falch iawn o’i llwyddiant ac yn dymuno pob lwc iddi yn y bennod newydd hon o’i gyrfa.
We would like to inform you that Awel Watson Smyth, our deputy headteacher, has accepted a new position at Dafydd Llwyd School, Newtown, and will start her new role in September.
We would like to sincerely thank her for all her hard work, dedication over the years, and her consistent care for the wellbeing and development of the children. Her contribution has been invaluable, and it is a great loss to us as a school.
However, we are very proud of her success and wish her every luck in this new chapter of her career.











