Llongyfarchiadau Miah / Congratulations Miah

Llongyfarchiadau mawr i Miah o Flwyddyn 4 am gyrraedd y rownd derfynol yn y gystadleuaeth Heddlu Gogledd Cymru. Dyluniodd Miah boster gwych yn llawn gwybodaeth bwysig am sut i gadw yn saff ar lein. Ymgeisiodd 2,107 o bobl a llwyddodd Miah i gyrraedd y rownd derfynol- am lwyddiant! Da iawn ti Miah!

A huge congratulations to Miah from Year 4 for reaching the final stage in the competition held by North Wales Police. Miah designed a fantastic poster full of information about how to keep safe online. 2,107 others took part in the competition and Miah managed to reach the final round- what an achievement! Da iawn ti Miah!