Llythyr diwedd tymor – End of term letter

Annwyl rieni a gwarchodwyr

Staffio

Rydym yn croesawu Mrs Glenna Hughes atom ar staff yr ysgol fel cymhorthydd addysgu. Gobeithiwn y bydd Mrs Hughes yn hapus iawn yma yn ein plith. Ddechrau Ionawr byddwn yn croesawu Mrs Vicky Walsh yn ôl atom fel cymhorthydd addysgu yn y dosbarth Meithrin yn dilyn cyfnod mamolaeth. Ar yr un pryd, dymunwn yn dda i Miss Ffion Hughes (cymhorthydd dosbarth Derbyn) fydd yn cychwyn cyfnod mamolaeth ym mis Ionawr.

 Cyngherddau Nadolig

Cafwyd wythnos brysur ond llwyddiannus o ran cyngherddau Nadolig wythnos diwethaf. Diolch yn fawr i’r holl blant a’r staff a fu’n gweithio’n galed i’w cyflwyno ac i bawb a ddaeth i’r ysgol i gefnogi.

Plant Mewn Angen

Yn dilyn ymdrechion disgyblion, rhieni a staff yn casglu arian y tymor yma, mae siec o £177 wedi ei chyflwyno i Plant Mewn Angen. Byddwn yn cyflwyno siec i Ymchwil Cancr yn dilyn y cyngherddau Nadolig yn fuan. Diolch yn fawr i bawb am eu cefnogaeth.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

Bydd yr ysgol yn ail agor i’r plant ar ddydd Mercher, Ionawr 4ydd 2017.

 

Dear parents and carers,

Staffing
We welcome Mrs Glenna Hughes as a new teaching assistant at Bro Alun and hope that she will be very happy with us here. At the beginning of January, we will be welcoming Mrs Vicky Walsh back as a teaching assistant in the Nursery class following her maternity leave. At the same time, we wish Miss Ffion Hughes (Reception class Teaching Assistant) the best as she starts her maternity leave in January.
Christmas Concerts
We had a very busy but successful week of Christmas concerts. Thank you to all the children and staff who worked hard to make sure the concerts were so good. Thank you also to everyone who came to the school to support.
Children In Need
Following the efforts of pupils, parents and staff, a cheque of £177 has been presented to Children in Need. We will also be making a contribution to Cancer Research following the Christmas concerts. Thank you to everyone for their support.
Merry Christmas and a Happy New Year to everyone.
The school will reopen for the children on Wednesday, January 4th.

Diolch yn fawr,

Osian Jones