Hysbyseb swydd / Job vacancy

Swyddog Gweinyddol Rhan amser – Lefel 1 G03: £24,796 – £25,185 pro rata  Dyddiad Cychwyn: Dydd Iau, 6/11/25 8 awr yr wythnos (Bore Dydd Iau a Bore Dydd Gwener) Rydym yn edrych am aelod o staff i weithio yn nerbynfa brysur ein hysgol; person a fyddai’n barod i weithio’n hyblyg ar ystod o dasgau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson trefnus fydd yn medru gwneud cyfraniad gwerthfawr i’n hysgol. Os oes gennych sgiliau gweinyddol, cyfrifiadurol a chyfathrebu da a bod gennych ddiddordeb mewn gweithio mewn ysgol, dyma’r swydd i chi! Cynigir hyfforddiant wedi ei deilwra i ofynion yr ymgeisydd llwyddiannus er mwyn medru cyflawni’r swydd. Mae Ysgol Bro Alun yn ysgol gyfrwng Gymraeg newydd ym mhentref Gwersyllt. Gallwn gynnig awyrgylch ac ethos hyfryd ymysg y staff a’r plant. Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru’r Gymraeg. Cysyllter â’r Pennaeth am fwy o fanylion neu os am ymweld â’r ysgol Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) DYDDIAD CAU: Dydd Mawrth, 30/9/25 Bro Alun School Administrative Officer – Level 1 Part Time Permanent Start Date: 6th November 2025 2 days per week (Thursday … Read more

CANIATAD / PERMISSION

Bydd eich plentyn yn dod adref â 2 ffurflen yr wythnos hon – caniatâd ar gyfer lluniau ac ymweliadau allan o’r ysgol. A wnewch chi ddychwelyd y ffurflenni wedi’u cwblhau erbyn dydd Gwener y 20fed i staff y dosbarth.  Os nad yw’r ffurflen yn cael ei dychwelyd i’r ysgol byddwn yn ystyried hyn fel dim … Read more

BOCSIO bl 5 & 6 / Boxing yr 5 & 6

Cofiwch gofrestru erbyn cyn Dydd Gwener. Mi fydd disgyblion bl 5 a 6 yn cymryd rhan mewn sesiynau blasu bocsio, Bocsio Cymru dros yr wythnosau nesaf, bl 6 i ddechrau ac wedyn bl 5 cyn yr hanner tymor. Mr Nigel Brett fydd yn arwain y sesiynau ac mi fydd y sesiynau yn rhad ac am … Read more

Digwyddiad heddiw / Incident today

Efallai eich bod yn ymwybodol bod y frigâd dân wedi bod yn yr ysgol bore ‘ma. Mae safle’r ysgol yn ddiogel, mae’r frigâd dân wedi gadael ac mae’r disgyblion yn ôl yn y dosbarth ar ôl cyffro’r bore. Roedd ymddygiad pob plentyn yn ardderchog yn ystod y digwyddiad – da iawn nhw! You may be … Read more