Rydym yn awyddus i lunio proffil un dudalen ar gyfer yr ysgol er mwyn adnabod cryfderau’r ysgol a sicrhau ein bod yn cefnogi ein dysgwyr a theuluoedd yn y ffyrdd mwyaf effeithiol.
Er mwyn mynd ati i greu’r proffil, mae mewnbwn y disgyblion, staff, llywodraethwyr a’ch llais chi fel rhieni a theuluoedd yn angenrheidiol ac rydym yn awyddus iawn i glywed eich safbwyntiau a sylwadau.
Mi fyddan ni’n gwerthfawrogi petasech chi’n rhoi munud o’ch amser i gwblhau’r holiadur yma am yr hyn yr ydych chi’n ei hoffi neu’n edmygu am Ysgol Bro Alun. Mae’r linc isod.
Byddwn yn datblygu proffiliau un dudalen gyda holl ddisgyblion Ysgol Bro Alun eleni. Bydd gwybodaeth yn cael ei gasglu yn y dosbarth er mwyn edrych ar bethau mae eraill yn eu hoffi ac yn edmygu am eich plentyn, beth sy’n bwysig i’ch plentyn a sut i’w cefnogi i gyflawni a llwyddo yma yn yr ysgol.
Rydym yn edrych ymlaen at gyd-weithio efo chi eto eleni.
We are eager to produce a one page profile of our school in order to identify the school’s strengths and ensure that we support our learners and families in the most effective ways.
In order to create the profile, the input of pupils, staff, governors and your voice as parents and families is essential and we are very keen to hear your views and comments.
We would really appreciate it if you took a minute to complete the questionnaire about what you like or admire about Ysgol Bro Alun. The link is below.
We will be developing one page profiles with all pupils at Ysgol Bro Alun this year. Information will be gathered in class to look at what others like and admire about your child, what matters to your child and how to support them to achieve and succeed here at school.
We look forward to working with you again this year.