Rydym yn ymwybodol fod nifer o blant hynaf yr ysgol yn cerdded adref, neu draw at y maes parcio/ parc yn annibynnol ar ôl ysgol. Os ydych yn rhoi caniatâd i’ch plentyn cerdded adref/ at ardal benodol, bydd angen cwblhau ffurflen caniatâd newydd eleni sy’n cyd-fynd â pholisi diogelu’r ysgol. Bydd eich plentyn yn derbyn copi o’r ffurflen ar Ddydd Iau a gofynnwn yn garedig i chi ddychwelyd y ffurflen mor fuan â phosib, yn ddelfrydol erbyn Dydd Gwener. Ar gyfer y diwrnod/au cyntaf, tra rydym yn aros i’r ffurflen caniatâd cael ei rannu/ dychwelyd i’r ysgol, fe allwn dderbyn unai nodyn ysgrifenedig neu e-bost trwy Mailbox yr ysgol yn nodi eich caniatâd. Heb dystiolaeth o’ch caniatâd, ni fydd yn bosib i ni ryddhau eich plentyn o’r ysgol a byddem yn cysylltu er mwyn i chi drefnu fod rhywun yn dod i nôl eich plentyn.
Diolch o galon am eich cydweithrediad ar gychwyn y flwyddyn academaidd.
We are aware that many of the older children walk home, or over to the car park/ skate park independently after school. If you give your permission for your child to walk home/ to an agreed area, a new permission form must be completed this year in line with our safeguarding policy. Your child will receive a copy of the new form when they return on Thursday and we kindly ask that the form is returned as soon as possible, ideally by Friday. For the initial first day/ days, whilst we wait for the forms to be handed out and returned to school, we can accept either a written note or an email to the school Mailbox noting your permission. Without evidence of your permission, it will not be possible to send pupils home at the end of the day and we will be in contact with you to arrange that someone collects your child from school.
Many thanks in advanced for your cooperation at the beginning of the new academic year.



