Cyffredinol/General
Diwrnod 3 – Unigolion iach a hyderus / Day 3 – Healthy and confident individuals
Heddiw dysgodd y disgyblion am bwysigrwydd bod yn hyderus ac yn iach er mwyn teimlo’n dda am eu hunain ac er budd ein hiechyd meddwl. Cyflwynwyd sgiliau bywyd pwysig yn ystod y dydd megis sgiliau coginio, sut i gadw’n heini a gwersi ar gadw’n ddiogel a gwneud dewisiadau da. Roedd holl aroglau coginio yn anhygoel … Read more
Breichledi Bendigedig Glas a Melyn / Blue and Yellow bracelets
Mae Celyn o Flwyddyn 3 wedi bod yn brysur iawn yn codi arian ar gyfer Apêl Wcráin. Mae hi wedi bod yn creu breichledau glas a melyn a’u gwerthu nhw i’w chyfoedion am 50c yr un. Sgiliau busnes a mentergarwch ar ei orau! Hyd yn hyn mae hi wedi codi £51 o elw sy’n codi … Read more
Diwrnod 2 – Cyfranwyr Mentrus a Chreadigol / Day 2 – Enterprising, Creative Contributers
Ffocws y dydd heddiw oedd ar gyfranwyr mentrus a chreadigol. Hyfryd oedd gweld y mwynhad ar wynebau’r disgyblion wrth iddynt greu, dyfeisio a chynllunio amrywiaeth o bethau diddorol yn ogystal â mentro i godi arian a chanfod atebion i gwestiynau’r dydd. Bu’r disgyblion hynaf yr ysgol yn creu gemau ffair i godi arian i gefnogi’r … Read more
Dydd Dŵr Byd Eang – World Water Day
Aeth holl ddisgyblion yr ysgol ar daith gerdded i barc Dyfroedd Alun i feddwl am y plant bach ledled y byd sy’n cerdded hyd at 4 km yn ddyddiol am ddŵr bob dydd. Yn ystod y dydd cawsom weithgareddau i ddathlu a deall pwysigrwydd dðr. Dyma flas i chi o’r gweithgareddau hwyliog y dydd. … Read more
Diwrnod 1 – Dysgwyr Uchelgeisiol a Galluog / Day 1 – Ambitious and Capable Learners
Cawsom ddiwrnod gwerth chweil heddiw yn ymgyfarwyddo gyda’r diben cyntaf yr wythnos hon sef disgyblion uchelgeisiol a galluog. Roedd sgiliau pwysig a chyfleoedd di-ri i bawb ddatrys a chanfod yr atebion i ystod o sefyllfaoedd. Hyfryd oedd gweld ein disgyblion yn dyfalbarhau ac yn herio’u hunain! Cawsom Amser Adlewyrchu i orffen y dydd a chyfle … Read more
Dydd Dŵr Byd Eang – 22.3.22 – World Water Day
Mae’r neges uchod gan y Cyngor Ysgol ac yn berthnasol i bob disgybl. I ddathlu Dydd Dŵr Byd Eang dydd Mawrth yma, caiff y disgyblion wisgo glas i’r ysgol. Ni fydd gost am hyn. Llawer o ddiolch. The above message from the School Council applies to all pupils. To celebrate World Water Day on Tuesday, … Read more