Da iawn i bob plentyn fu’n cynrychioli’r ysgol yn eisteddfod gylch yr Urdd dydd Sadwrn. Llongyfarchiadau arbennig i Malan Arnold am ennil y llefaru Bl 1 a 2 – bydd hi’n mynd mlaen i gystadlu yn yr eisteddfod rhanbarth wythnos nesaf – i Steffan Jorgensen am ddod yn drydydd yn y canu a llefaru Bl 1 a 2 ac i Daisy Darling am ddod yn bedwerydd yn y canu Bl 1 a 2.
Diolch i’r staff am eu gwaith hyfforddi ac i reini a theuluoedd am eich cefnogaeth.
Diolch arbennig hefyd i’r CRhA am eu gwaith diflino yn paratoi a gwerthu bwyd yn yr eisteddfod.
Well done to all the children who represented the school on Saturday in the Urdd eisteddfod. Congratulations to Malan Arnold who came first in the Year 1 and 2 recitation – she will now go on to compete in the regional eisteddfod next week – to Steffan Jorgensen for coming third in the Year 1 and 2 singing and recitation and to Daisy Darling for coming fourth in the Year 1 and 2 singing.
Thank you to the staff for their work and to parents and families for all your support.
A special thanks as well to the PTA for their hard work preparing and selling food at the eisteddfod, it’s very much appreciated.