Gweithgareddau Lles ( Dydd Llun a Mawrth) / Well-being Activities (Monday and Tuesday)

Byddwn yn cynnal deuddydd lles wythnos nesaf ar ddydd Llun a dydd Mawrth gan weithredu ar y Pum Ffordd at Les. Bydd y disgyblion yn dysgu  sgiliau newydd drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol i wella eu dealltwriaeth o bwysigrwydd lles corfforol a meddyliol.
Gan fod y rhagolygon tywydd yn addo tywydd hynod o boeth, gall y disgyblion ddod i’r ysgol yn gwisgo eu dillad Addysg Gorfforol. Gofynnwn yn garedig iddynt wisgo het haul ac eli haul i’r ysgol a dod a photel o ddŵr hefyd. Byddwn yn wyliadwrus o’r tymheredd ac yn osgoi cynnal unrhyw weithgareddau tu allan am gyfnodau hir os yw’r tywydd yn rhy boeth.

Diolch yn fawr.

The pupils will participate in a variety of activities based on the Five Ways to Well-being on Monday and Tuesday of next week. The pupils will learn new skills by taking part in various activities to improve their understanding of the importance of physical and mental wellbeing.

As the weather forecast promises extremely hot weather, the pupils can come to school wearing their P.E clothes. We kindly ask that they wear a sun hat and sun cream to school and also bring a bottle of water. We will be wary of the temperature and avoid carrying out any activities outside for long periods if the weather is too hot.

Thank you very much.