Mae Blwyddyn 2 wedi bod yn brysur yn ystod yr hanner tymor yma yn defnyddio eu sgiliau TGCh yn y dosbarth.
Yr wythnos diwethaf, fe aethon nhw i gyflwyno PowerPoint am anifeiliaid mewn perygl i blant y Derbyn. Da iawn chi am gydweithio a chreu cyflwyniadau diddorol!
Yn ogystal, yr wythnos hon, rydym wedi mwynhau codio ar HWB a dadfygio algorithmau ar y Bee Bot. Sgiliau TGCh campus Blwyddyn 2!