Blwyddyn Newydd Tseina – The Chinese New Year

Dros yr wythnosau diwethaf bu disgyblion Uned y Blynyddoedd Cynnar yn dilyn y thema ‘Blwyddyn Newydd Tseina’. Cawsom nifer o brofaiadau gwahanol a mwynhau bwyta nwdls a chreu addurniadau fel laterni a dreigiau. Rydym wedi dysgu ffeithiau diddorol am sut mae pobl Tseina yn dathlu blwyddyn y mochyn. I gloi’r holl waith buom yn creu dreigiau mawr ac yn eu defnyddio i ddawnsio yn y Neuadd. Roedd digon o hwyl i’w gael wrth i ninnau gael dathlu blwyddyn newydd Tseina hefyd.

Over these past few weeks the Early Years Unit pupils have been following the theme of ‘The Chinese New Year’. We had various experiences and enjoyed tasting noodles and creating lanterns and dragons. We have learnt interesting facts about how the Chinese celebrate the year of the pig. To end all the work we created large dragons and used them to dance in the hall. We had plenty of fun as we too celebrated the Chinese New Year.