Ymweld a’r Deintydd – A visit to the Dentist

Aeth y Llysgenhadon Iaith draw i ddeintyddfa Gwersyllt pnawn ma i gyflwyno’r llyfrau a’r gemau Cymraeg rydym wedi eu prynu gyda’r arian a godwyd o’r gystadleuaeth celf a chrefft ar Ddydd Gwyl Dewi. Cawsom groeso cynnes iawn gan Katie ac fe wnaeth y Llysgenhadon sgwrsio am eu gwaith yn hybu’r Gymraeg. Mae Katie yn deall Cymraeg ac fe wnaeth y Llysgenhadon roi cortyn gwddf iddi wisgo er mwyn dangos hynny i bawb. Edrychwch allan am yr adnoddau os ydych yn mynd yno. Mae Niamh a Charlie wedi dylunio sticer Bro Alun ar gyfer pob llyfr!

The Welsh Language Ambassadors went to Gwersyllt Dental Care this afternoon to deliver the books and games we have bought with the money raised from the St David’s Day art competition. We had a very warm welcome from Katie and the children chatted with her about their work promoting use of the Welsh language. Katie understands Welsh and the children have given her a lanyard so that visitors to the dental practice know this. Keep an eye out for the brand new books if you are visiting. Niamh and Charlie have designed a Bro Alun sticker for every book!

Dyma’r linc i chi: / Here’s the link :

https://www.youtube.com/watch?v=BAMpXLow8Ag