Ymweliad – Llysgenhadon Iaith – Visit

Cafodd ein Llysgenhadon Iaith brynhawn gwych yn ymweld â siopau Gwersyllt wythnos diwethaf i weld faint o’r Gymraeg sy’n cael ei defnyddio yn yr ardal leol. Roedd yn arbennig gweld cymaint o’r Gymraeg yn Lidl – da iawn nhw! Cafodd y plant sgwrs ddifyr iawn gydag un o’r rheolwyr a chawsom ein synnu bod 4 o staff Lidl yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r plant wedi gosod arwydd ‘ar agor/ar gau’ yn y Siop Bapurau a phoster gyda brawddegau syml yn ymyl y til. Rydym yn gobeithio ymweld â siopau eraill yng Ngwersyllt yn fuan. Diolch yn fawr i Ffion o Cymraeg Byd Busnes am ymuno â ni ac i’r siopau am y croeso cynnes.

Our Llysgenhadon Iaith had an excellent afternoon last week visiting local shops to see how much Welsh is used in the local community. It was wonderful to see so much Welsh in Lidl – well done them! The children had an interesting conversation with one of the managers and were pleased to hear that 4 members of staff i Lidl can speak Welsh. The children have placed an ‘open/closed’ sign in the window of the Newsagents and a poster with some simple phrases near the till. We hope to visit more shops in Gwersyllt in the near future. Thank you to Ffion from Cymraeg Byd Busnes for joining us and to the local shops for the warm welcome.