Dathlu #Dydd Miwsig Cymru 2019 / Celebrating #Dydd Miwsig Cymru 2019

Rydym fel ysgol yn edrych ymlaen at ddathlu Dydd Miwsig Cymru ar yr 8 fed o Chwefror 2019. Mae Llysgenhadon Iaith yr ysgol wedi bod yn gweithio’n frwd gydag Owain Williams o’r Urdd  ar brosiect cyffrous Dydd Miwsig Cymru 2019. Fel rhan o waith y Siarter Iaith mae’r disgyblion wedi creu rhestr fer o ganeuon cŵl Cymraeg ac mae’r llysgenhadon yn awyddus i ddarganfod pa drac yw hoff gân y disgyblion. Rydym am gynnal pleidlais yma cyn Dydd Miwsig Cymru i gyhoeddi’r canlyniad.

Mi fyddwn yn gwerthfawrogi hefyd os gallwch chi chwarae’r caneuon yn eich cartref fel bod y disgyblion yn dod yn fwy cyfarwydd â nhw. Gallwch sganio’r cod QR sydd ar ein poster neu cliciwch ar y linc isod.

Dyma fideo mae’r Llysgenhadon Iaith wedi  creu i gyflwyno’r prosiect. Mwynhewch!  / Here is a short video that our Welsh Ambassadors have created to present this exciting  project. Enjoy!

We are looking forward to celebrate Dydd Miwsig Cymru on the 8th February 2019 here at Ysgol Bro Alun. The school’s Language Ambassadors have been working hard with Owain Williams from the Urdd in preparation for Dydd Miwsig Cymru 2019. As part of our work with the Welsh Language Charter, pupils have compiled a playlist of popular Welsh songs and the Welsh Ambassadors are eager to find out which track is the favorite among our pupils. We will be voting for our favorite track and will be announcing the winner before Dydd Miwsig Cymru.

We would also appreciate if you can play the songs at home so that the pupils become more familiar with them. You can scan the QR code on our poster or click on the link below.

http://l.ead.me/bb1Uf5