Gwasanaeth Dewiniaid Digidol- Digital Wizards Assembly

Diolch yn fawr i’r Dewiniaid Digidol am wasanaeth pwysig iawn bore ma am sut i ddefnyddio’r we yn ddiogel. Da iawn bawb am siarad mor glir a hyderus! Thank you very much to the Digital Wizards for a very important assembly this morning about how to use the internet safely. Well done everyone for speaking … Read more

Apel Bocsys Esgidiau / Shoe Box Appeal

Diolch o galon i bawb a gyfranodd focs tuag at Apêl Bocsys Esgidiau Teams4U cyn y Nadolig. Aeth eich rhoddion hael i ysgolion a phentrefi o gwmpas Oradea, Rwmania. Dyma fideo hyfryd sy’n dangos gwerthfawrogiad plant Rwmania wrth dderbyn y bocsys: Thank you to everyone that contributed a box towards the Teams4U Shoebox Appeal before … Read more

#Dydd Miwsig Cymru 2019. Ffederasiwn Plas Coch a Bro Alun

Cawsom ddiwrnod cofiadwy  arall heddiw yn dathlu #Dydd Miwsig Cymru 2019. Aeth disgyblion 3,4,a 5 draw i Ysgol Plas Coch a chawsom gwmni Blwyddyn 1 a 2 Plas Coch yma am y dydd.  Yn ystod y bore gwnaethom fwynhau cwblhau amrywiaeth o weithgareddau megis dylunio clawr CD Cymraeg newydd ac ysgrifennu adolygiad o’r gig Gwilym. … Read more

Cyngor Ysgol – School Council

Fore Llun, Chwefror 4ydd aeth aelodau o Gyngor Ysgol Bro Alun i ymweld â Maer Wrecsam, y Cynghorydd Andy Williams yn Neuadd y Dref. Yno buom yn dysgu am waith prysur y Maer. Mae’r Maer yn mynd i lawer o bwyllgorau ac yn cymryd rhan mewn sawl digwyddiad pwysig yn yr ardal. Cawsom eistedd yn … Read more

5 pwynt dojo / 5 dojo points

Un o’n targedau eleni  yw i ddatblygu a chynyddu’r defnydd o Gymraeg  ar  fuarth yr ysgol. Yn dilyn cyfarfod gyda’r Llysgenhadon Iaith yr wythnos diwethaf, cynigwyd syniad arbennig gan ddau ddisgybl er mwyn i ni dargedu’r defnydd o Gymraeg ar fuarth yr ysgol.  Awgrymodd y Llysgenhadon Iaith i gynyddu’r pwyntiau dojo o 2 bwynt i … Read more

Gwasanaeth Cyngor Eco / Eco Council’s Assembly

Bore ‘ma cawsom gyflwyniad ardderchog gan ddisgyblion y Cyngor Eco am y broblem blastig sydd ar draws y byd a sut y gallwn ni leihau llygredd plastig. Mae’r pwyllgor wedi penderfynu casglu caeadau plastig ac wedi anelu at 10kg o gadaeau erbyn y Pasg.  Mi fyddan nhw wedyn yn eu defnyddio i greu murlun ar … Read more

Llongyfarchiadau – Congratulations

Llongyfarchiadau mawr i Betsi Williams o Flwyddyn 5 am gael ei dewis i fod yn rhan o gynllun Criw Celf Ty Pawb, Wrecsam. Mae Betsi yn un o’r rhai lwcus sydd wedi cael ei dewis o ysgolion Wrecsam i gydweithio gydag artistiaid proffesiynol dros yr wythnosau nesaf er mwyn datblygu sgiliau creadigol. Yn sicr bydd … Read more