Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol CRhA / PTA Annual General Meeting

CRhA YSGOL BRO ALUN PTA

Croeso a CCB

Croeso cynnes i chi gyd yn ôl ar ôl yr haf, boed yn rhieni i blant sy’n cychwyn yr ysgol am y tro cyntaf neu i rai sy’n dychwelyd i ddosbarth newydd. Fel CRhA rydym yn edrych ymlaen yn fawr at flwyddyn o ddigwyddiadau cyffrous unwaith eto, ac rydym yn gobeithio y byddwch yn awyddus i gymryd rhan yn y cynllunio a’r paratoi – rydym wastad yn awyddus i groesawu syniadau newydd. Pam na wnewch chi ymuno a ni ar gyfer CCB y CRhA Nos Lun, Hydref 14 am 6.30yh, yn yr ysgol? Bydd yn gyfle gwych i adlewyrchu ar y flwyddyn a fu a chael cyfle i gymryd rhan am y flwyddyn i ddod. Edrychwn ymlaen yn fawr i’ch gweld! Cofiwch hoffi ein tudalen Facebook CRhA Ysgol Bro Alun PTA

Welcome & AGM

A belated warm welcome to parents both those with children starting at the school and returning after a summer break, which already feels an age away. We’ve got some exciting ideas for Ysgol Bro Alun PTA and hope you would like to get involved as much or as little as you are able, we are always welcoming to new ideas and suggestions. Why not join us on Monday  14th October at 6.30pm at the school for the PTA AGM. A great chance to find out about last year and get involved for the next year. We look forward to seeing old and new faces. Why not like the CRhA Ysgol Bro Alun PTA Facebook page?