Gobeithio fod pawb yn cadw’n iawn a wedi mwynhau gwyliau’r Pasg. Cofiwch mai dydd Mawrth, Ebrill 13eg fydd yr ysgol yn ail agor i’r disgyblion gan fod yfory yn ddiwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd.
ParentPay – Cofiwch fod angen defnyddio ParentPay ar gyfer archebu a thalu am ginio ysgol (erbyn 8:00am bob bore) ac archebu a thalu am le yn y clwb ar ol ysgol (erbyn 12:00pm ar y diwrnod). Yn ol yr hyn a ddeallwn, mae CBSW yn dal i drio sortio y broblem efo archebu lle drwy ParentPay ar gyfer y Clwb Brecwast; tan fod hyn wedi ei ddatrys, gellir defnyddio yr un drefn ac arfer o ddod a’ch plentyn i’r clwb brecwast. Fe adawn i chi wybod unwaith y bydd ParentPay yn gallu cael ei ddefnyddio i archebu lle ar ddyddiau penodol ac y bydd credyd clwb brecwast wedi ei ddiweddaru ar gyfrifon.
We hope that everyone is keeping well and have enjoyed the Easter holidays. A reminder that the school reopens for the pupils on Tuesday, April 13th as tomorrow is a training day.
ParentPay – School meals and After School Club should be ordered and paid for using ParentPay (school meals by 8:00am every morning and After School Club by 12:00pm on the day). From what we understand, WCBC and ParentPay are still sorting out the issue regarding booking a place on specific days in the Breakfast Club. Until this is resolved, you can continue to use the Breakfast Club as you did last term and we will inform you once ParentPay can be used to book Breakfast Club places and when Breakfast Club credit has been updated on accounts.