Ddechrau mis Ionawr, bydd Mr Andy Jenkins, gofalwr yr ysgol, yn ymddeol. Mae Mr Jenkins wedi bod yn ofalwr ar yr ysgol ers iddi agor yn 2013 a chyn hynny yn ofalwr ar Ysgol Plas Coch (gan wneud y ddwy ysgol am gyfnod). Mae ei waith fel gofalwr wedi bod o safon uchel iawn gyda nifer o sylwadau yn cael eu gwneud ar hyd y blynyddoedd am ba mor lan a thaclus yw’r tu mewn a thu allan yr ysgol. Byddwn i gyd, yn staff a rhieni yn colli Andy, nid yn unig o ran safon ei waith ond hefyd o ran ei gwmniaeth a’i hiwmor. Bydd y disgyblion hefyd yn colli Mr Jenkins a’i barodrwydd i gael sgwrs a hwyl efo nhw.
Dymunwn y gorau iddo yn ei ymddeoliad gan hefyd groesawu Mr Howard Davis fel gofalwr newydd ar yr ysgol o ddechrau Ionawr ymlaen.
At the beginning of January, the school’s caretaker, Mr Andy Jenkins will be retiring. Mr Jenkins has been the school’s caretaker since we opened in 2013 and was before that, caretaker at Ysgol Plas Coch (caretaking at both schools for a period). His work as caretaker has been of a very high standard with numerous comments being made over the years about how clean and tidy the school is both inside and outside. We will all, staff and parents miss Andy, not only due to the standard of his work, but also for his companionship and humour. The pupils will also miss Mr Jenkins with his readiness for a chat and fun with them.
We wish him all the best in his retirement while at the same time welcoming Mr Howard Davis as the school’s new caretaker from January onwards.