Byddwn yn cynnal diwrnod di-wisg i’r disgyblion dydd Gwener yma, Mawrth 31ain er mwyn cefnogi un o rieni yr ysgol. Cyn hir, bydd Richard Green, tad Harri (Bl 6) a Isabel (Bl 2) yn beicio o Lundain i Baris, tua 320 o filltiroedd, dros bedwar diwrnod er mwyn codi arian tuag at hosbis Ty’r Eos. Mae mwy o fanylion i’w gweld drwy’r ddolen isod a gallwch gyfrannu am y diwrnod di-wisg drwy’r ddolen hefyd. Os hoffech yrru eich cyfraniad mewn arian parod i’r ysgol yn hytrach na thrwy Just Giving, gallwch wneud hynny dydd Gwener.
This coming Friday, March 31st will be a non-uniform day for the pupils to support one of the school’s parents. Before long, Richard Green, father of Harri (Yr 6) and Isabel (Yr 2) will be cycling from London to Paris, which is around 320 miles, over 4 days to raise much needed funds towards Nightingale House. There are further details through the link below and you can also contribute for the non uniform day using the link. You can also send a cash contribution with your child to the school on Friday if you prefer.