Maes Parcio’r Ysgol / School Car Park

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i chi am eich cydweithrediad ers dechrau Medi yn dilyn ein cais i chi beidio parcio ym maes parcio’r ysgol. Mae hi’n llawer mwy diogel yno erbyn hyn. Cofiwch mai dim ond dalwyr bathodyn glas ac unrhyw un sydd wedi cael caniatad penodol i barcio yno sydd i wneud, gan gynnwys wrth ollwng plant ar gyfer y clwb brecwast.

Rydym hefyd wedi cael cais gan un o drigolion Rhodfa Delamere i atgoffa rhieni a gwarchodwyr i beidio parcio, yn rhannol nac yn llawn ar draws dreifs y tai.

 

 

We’d like to thank you for your cooperation since the beginning of September by not parking in the school’s car park. As a result, it’s much safer there by now. Please remember that only those that have a blue badge or have had specific permission from the school should park there including when dropping off children for the breakfast club.

We’ve also had a request from a local resident to remind parents and carers not to park across  driveways on Delamere Avenue. 

Diolch yn fawr iawn / Thank you