Pwysig – Clwb brecwast Medi / Important – Breakfast club in September

Neges gan CBSW – Newidiadau i’r taliad am sesiwn clwb brecwast rhwng 8:00am ac 8:20am

Mae nifer o ysgolion cynradd yn Wrecsam yn cynnig brecwast am ddim mewn sesiwn cyn dechrau’r ysgol (8:20am – ymlaen ym Mro Alun).  Gallwn eich sicrhau na chodir unrhyw dâl o hyd am hyn.

Fodd bynnag, yn ychwanegol at y sesiwn brecwast am ddim, mae nifer o ysgolion yn cynnig sesiwn  ychwanegol ac yn codi £1 y plentyn ar rieni (am ddim i blant sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim) – rhwng 8:00am ac 8:20am ym Mro Alun.

Tra bod y gyfradd hon wedi aros yn ddigyfnewid ers y cyflwynwyd y ddarpariaeth yn 2018, o ganlyniad i gynnydd mewn costau gweinyddol a staffio, a’r ffaith nad yw’r cyngor yn derbyn unrhyw gyllid allanol, nid yw hyn yn gynaliadwy mwyach.

I sicrhau fod ysgolion yn gallu parhau i ddarparu’r sesiynau hyn, bydd y ffi i bob plentyn am y sesiwn rhwng 8:00am ac 8:20am  yn cynyddu i £2 y plentyn (50c i blant sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim) o Fedi 1 2023.

Nid yw’r cynnydd hwn yn effeithio ar y sesiwn  o 8:20am ymlaen sy’n parhau am ddim i bob plentyn.

Fe wyddom y daw hyn ar adeg pan fo cynifer o deuluoedd yn teimlo fod costau cartref yn heriol. Os ydych chi’n cael trafferth talu costau eich cartref, ewch i dudalennau ‘cymorth gyda chostau byw’ Cyngor Wrecsam am gyngor ar unrhyw gymorth arall a allai fod ar gael i chi.

Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd dudalen gymorth yn ymwneud â chostau byw, sy’n darparu gwybodaeth ynglŷn â ffynonellau o gymorth ariannol posibl.

A ydych chi’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim?

Os ydych chi ar incwm isel, fe allwch fod yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim yn ogystal â’r grant Hanfodion Ysgol i helpu gyda phrynu gwisg ysgol a chyfarpar. Ewch i’r dudalen isod i gael gwybod mwy:

Y Cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yn cael ei gyflwyno i Flynyddoedd 3 i 6 – Newyddion Cyngor Wrecsam

 

Message from WCBC – changes to charges for breakfast club session between 8:00am and 8:20am

Many primary schools in Wrexham offer a free breakfast at a session  before the start of school (from 8:20am at Bro Alun).  Please be reassured that there will continue to be no charge for this.

However, to supplement the free breakfast session, many schools offer an additional session and charge parents £1 per child (free to children who are eligible for free school meals) – between 8:00am and 8:20am at Bro Alun.

While this rate has remained unchanged since the provision was introduced in 2018, due to increased staffing and administrative costs, and the fact that the council receives no external funding, this is no longer sustainable.

To make sure that schools are able to continue to provide these sessions, the fee per child for the session between 8:00am and 8:20am will increase to £2 per child (50p for children who are eligible for free school meals) from September 1, 2023.

This increase does not affect the session from 8:20am which remains free for all children.

We know this comes at a time when many residents are finding household costs a challenge. If you are struggling to meet your household costs, please visit Wrexham Council’s ‘help with the cost of living’ pages for advice on any other help you may be able to access.

Welsh Government also have a cost of living help web page, which provides information of sources of possible financial support.

Are you eligible for free school meals?

If you are on a low income, you may be entitled to free school meals as well as the School Essentials grant to help with buying school uniform and equipment. Please visit the story below to find out more:

Universal Primary Free School Meals scheme rolls out to Years 3 to 6 – Wrexham Council News