Ymestyn yr ysgol / School extension

Yn ystod cyfarfod o bwyllgor cynllunio CBSW neithiwr, pledleisiwyd yn unfrydol dros ganiatau rhoi estyniad ar Ysgol Bro Alun. Bydd yr estyniad yn cynnwys ystafelloedd dosbarth, cynteddau, toiledau ac ardal agored, gan olygu y bydd capasiti yr ysgol yn cynyddu o 240 (210+30 Meithrin) i 360 (315+45 Meithrin). Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys Uned Addysg Gynnar (Cylch) newydd. Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn Medi 2020. Unwaith y bydd ganddom fwy o fanylion am y prosiect cyffrous hwn, bydd yn cael ei rannu a chi fel rhieni a gwarchodwyr.

At a meeting of WCBC’s planning committee last night, it was voted unanimously to give permission to proceed with extending Ysgol Bro Alun. The extension will include new classrooms, cloakrooms, toilets and a break out area and will mean that the school’s capacity will increase from 240 (210+30 Nursery) to 360 (315+45 Nursery). The work will also include the building of a new Early Years Unit (Cylch). The work will be completed by September 2020. Once we have more details on this exciting project, we will share it with parents and carers.

Diolch / Thank you,

Osian Jones