Llongyfarchiadau / Congratulations

Yng nghanol y cyfnod anodd yma, cafwyd newyddion i godi calon echdoe gyda Mrs Awel Watson-Smyth, ein dirprwy bennaeth,  yn rhoi genedigaeth i fachgen bach, Maldwyn Idris yn pwyso 7 pwys 15. Mae pawb yn iach ac adref yn barod. Rydym yn gyrru ein llongyfarchiadau i Mrs Watson-Smyth a’r teulu ac yn edrych ymlaen i … Read more

Estyniad / Extension

Mae’n bosib eich bod yn ymwybodol os ydech wedi pasio’r ysgol yn ystod y dyddiau diwethaf neu wedi gweld ein tudalen Facebook fod y gwaith ar adeiladu estyniad ar yr ysgol yn cychwyn heddiw. Byddwn yn eich diweddaru efo unrhyw wybodaeth berthnasol wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen ac yn enwedig pan fydd yr … Read more

Cyngor i Weithwyr Allweddol a’u plant / Advice for Key Workers and their children

Mae ‘na ddolen isod i wybodaeth ddefnyddiol i weithwyr allweddol a’u plant ar ddygymod ac effaith emosiynol delio’n ddyddiol efo Covid-19. There is a link below to useful guidance and advice for key workers and their children on navigating the emotional effects of the Covid-19 pandemic. https://www.bps.org.uk/news-and-policy/psychologists-produce-advice-key-workers-and-their-children 

Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1 / Reception and Year 1

Mae yna grwp Facebook wedi cael ei sefydlu gan yr ysgol ar gyfer plant a rhieni dosbarth Derbyn a Bl 1 (Pioden, Drudwen a Bran). Mae yna negeseuon fideo gan yr athrawon i’r plant yno yn barod a bydd yn cael ei ddiweddaru gan y staff yn gyson. Mae croeso i rieni  Derbyn a Bl … Read more

Eisteddfod yr Urdd / Urdd Eisteddfod

Gyda Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych eleni wedi ei gohirio oherwydd pandemig Covid-19, mae’r Urdd ar y cyd efo S4C am gynnal ‘Eisteddfod T’. Mae holl fanylion yr Eisteddfod ar ei newydd wedd, gan gynnwys sut i gystadlu ar gael drwy’r linc isod: Due to Covid-19 pandemic, this year’s Urdd Eisteddfod due to be held … Read more