Neges gan y pennaeth / Message from the head teacher

Ar ddiwedd fy nghyfnod fel pennaeth ar Ysgol Bro Alun, hoffwn ddiolch yn fawr i chi i gyd, yn rieni a theuluoedd am bob cefnogaeth dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Mae wedi bod yn bleser cael bod yn bennaeth ar ysgol mor arbenning gyda disgyblion gweithgar, caredig a hoffus, staff gweithgar ac ymroddedig a rhieni a theuluoedd cefnogol.

Mae wedi bod yn dipyn o daith dros y 10 mlynedd o sefydlu yr ysgol yn 2013 i’w gweld hi’n tyfu a datblygu i’r hyn yw hi nawr.  Byddaf yn colli pawb a phopeth am yr ysgol a bydd hi’n deimlad rhyfedd iawn peidio troi lawr am Rodfa Delamere ym mis Medi!

Pob dymuniad da i chi i gyd ac i’r ysgol yn y dyfodol – rwy’n edrych ymlaen i glywed hanes pawb ac i daro mewn i o bryd i’w gilydd i weld pawb.

 

At the end of my time as head teacher at Ysgol Bro Alun, I’d like to thank you all as parents and families for your support over the last 10 years. It has been a pleasure being a head teacher on such a special school with hard working, kind and caring pupils, hard working a committed staff and supportive parents and families.

The last 10 years has been quite a journey from setting up the school in 2013 to seeing it grow and develop to what it is now. I will miss everyone and everything to do with the school and it will be a very strange feeling not to drive down Delamere Avenue in September!

Best wishes to you all and to the school in the future – I look forward to hearing how the pupils are getting on and to pop in to say hello from time to time.

Osian Jones