Ysgol ar gau / School closed

Bydd yr ysgol ar gau heddiw oherwydd y tywydd – mae nifer o staff sy’n byw mewn ardaloedd gwledig ac uchel yn methu cyrraedd. Gan ystyried y rhagolygon o eira trwm am  y diwrnod, mae’n rhaid ystyried diogelwch disgyblion, rhieni, teuluoedd a staff yn gorfod teithio am weddill y diwnod. Bydd gweithgareddau yn cael eu … Read more

Eira / Snow

Gyda rhagolygon y tywydd ar hyn o bryd yn darogan eira prynhawn ‘ma, heno a bore fory, os bydd rhaid i ni gau yr ysgol yfory oherwydd fod y safle yn rhy beryglus neu os nad oes digon o staff yn gallu cyrraedd, byddwn yn gadael i chi wybod ar yr app cyn gynted a … Read more

Streic / Strike

Cofiwch fod streic yr NEU yn effeithio ar rai dosbarthiadau yfory; mae manylion yn yr ebost ddanfonwyd atoch ddiwedd wythnos diwethaf. A reminder that the NEU strike tomorrow is affecting some classes; details are in the email that was sent to you at the end of last week. 

Streic 14:02:23 / Strike 14:02:23

Rydym yn ymwybodol drwy’r wasg fod y streic oedd fod i gael ei chynnal dydd Mawrth nesaf, Chwefror 14eg wedi ei gohirio am nawr. Felly gallwch ddiystyru y wybodaeth a ddanfonwyd atoch ddoe ar ebost. Byddwn yn eich diweddaru os bydd unrhyw ddatblygiadau pellach. We are aware from press reports that the strike that was … Read more

Chwefror 1af / February 1st

Nodyn i’ch hatgoffa fod yr ysgol ar agor yn rhannol yfory (Chwefror 1af) o ganlyniad i’r streic. Mae manylion ar ba ddosbarthiadau sydd yn cael eu heffeithio yn yr ebost ddanfonwyd i rieni a gofalwyr wythnos diwethaf. Nid yw’r clwb brecwast na’r clwb ar ol ysgol yn cael eu heffeithio a maent ar agor fel … Read more